Mi fydd A*Seren yn cynnal sesiynau cymorth dyslecsia a clybiau gwaith
cartref yng Nghaerdydd.
Cychwyn Medi, 2012.
Gwybodaeth - helo@a-seren.com
Mae adolygu'n cael yr effaith orau pan fyddwch yn ymarfer yr hyn y byddwch yn ei wneud yn yr arholiad - sef ateb cwestiynau. Drwy ganolbwyntio ar ffeithiau allweddol a'u hysgrifennu ar bapur fel atebion arholiad, byddwch yn ei chael yn haws cofio'r hyn a ddysgoch yn y dosbarth.
Y peth pwysicaf i'w gofio yw Cadwch eich Pen – PEIDIWCH Â CHYNHYRFU. Os byddwch yn cynhyrfu 'nawr, bydd eich holl waith caled cyn yr arholiad yn cael ei wastraffu. Os byddwch yn cynhyrfu, ni fyddwch yn gallu meddwl yn iawn ac ni fyddwch yn cyrraedd eich potensial.
Efallai y byddwch wedi gwneud cyn-bapurau ac yn meddwl eich bod yn gwybod beth fydd strwythur yr arholiad.
Llongyfarchiadau ar fod wedi paratoi, ond peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd eich papur chi yr un peth â phapurau'r gorffennol gan y gallai'r fanyleb fod wedi newid. Darllenwch y cyfarwyddiadau'n drylwyr.
Os oes unrhyw gyfarwyddiadau nad ydych yn eu deall, codwch eich llaw a bydd goruchwyliwr yn ddigon parod i'ch helpu chi.
Mae hyn yn berthnasol iawn yn y pynciau gwyddonol lle y bydd atebion naill ai'n gywir neu'n anghywir, rhaid i chi gofio ateb y cwestiwn a bod yn fanwl gywir yn eich atebion h.y. gan ddefnyddio'r nifer lleiaf o eiriau.
Rhan hynod o bwysig o unrhyw arholiad yw darllen dros eich atebion a'u hadolygu.
Pan fyddwch yn gwybod faint o ddyddiau sydd eu hangen arnoch i adolygu bob testun, gallwch wneud adolygu'n rhan o'ch trefn ddyddiol. Fodd bynnag, rhaid i chi fod yn realistig ynglŷn â faint o amser sydd gennych chi:
Ar y cynllun, nodwch y pethau mae angen i chi eu gwneud, fel bod yn yr ysgol ac amser bwyd
rhannwch weddill yr amser yn slotiau hanner awr yr un.
Rhannwch bob testun ar eich rhestr wirio adolygu yn ddarnau llai y gellir eu hadolygu mewn 30 munud a llenwch y slotiau gyda'r darnau hyn.
Cychwynnwch drwy rannu nifer y dyddiau sydd gennych tan yr arholiad gyda faint o bynciau y mae angen i chi eu hadolygu. Gofynnwch i'ch athro/athrawes am restr o'r testunau neu gwnewch eich rhestr eich hun drwy edrych ar eich nodiadau.
Meddyliwch am unrhyw destunau y bydd angen rhoi mwy o amser iddynt - gallai'r testunau fod yn rhai manylach neu efallai eich bod wedi cael mwy o drafferth gyda nhw pan oeddech yn eu hastudio.
Gwnewch gynllun adolygu mor fuan ag y gallwch. Bydd hyn yn gadael i chi gyfrifo am faint o amser y bydd angen i chi astudio bob dydd, yn ogystal â phryd i gael seibiant - sydd yr un mor bwysig.
Canfyddwch pryd mae'r arholiad a chyfrifwch faint o amser sydd gennych tan hynny. Os nad ydych yn gwybod ar ba ddyddiad y bydd eich arholiad yn cael ei gynnal, gofynnwch i'ch athro/athrawes.
Gallwch hefyd chwilio am ddyddiadau arholiadau ar-lein drwy ddefnyddio Amserlen Arholiadau Interboard - gweler 'cael gwybod ar ba ddyddiad y cynhelir eich arholiad'.
Mae'n bwysig eich bod yn cymryd seibiant bob hyn a hyn er mwyn i chi aros yn effro wrth adolygu. Mae'n well i chi gymryd pum munud o seibiant bob hanner awr na chymryd hanner awr o egwyl ar ôl adolygu am bum awr. Ewch am dro, gwnewch ddiod i chi'ch hun, glanhewch eich ystafell, ewch i weld a oes post i chi - pan ddaw'r amser i fwrw 'mlaen â'r gwaith, byddwch wedi adfywio. Bydd y seibiannau hyn hefyd yn eich helpu i amsugno'r wybodaeth ac osgoi gorlwytho gwybodaeth.
Cynhwyswch weithgaredd hamdden fel rhan o'ch cynllun adolygu ddwy neu dair gwaith yr wythnos er mwyn i chi gael meddwl am rywbeth arall am newid.
I gael meddwl iach, rhaid i'ch corff fod yn iach felly gofalwch amdanoch chi'ch hun tra'ch bod yn adolygu. Bydd digon o gwsg ac ymarfer corff rheolaidd yn eich helpu i aros yn effro. Mae angen egni ar eich corff, felly bwytewch ddigon o fwyd hawdd eu treulio - bydd llysiau a ffrwythau ffres yn eich helpu i gadw lefelau egni'r corff yn uchel.
Os ydych chi'n profi problemau emosiynol, fel materion gyda theulu neu ffrindiau, neu fwlio, efallai y bydd hyn yn effeithio ar eich adolygu ac y bydd angen i chi geisio cymorth allanol. Ceisiwch gael cymorth cyn i hyn effeithio ar eich adolygu.
amdano?
Heb ddeall rhywbeth mewn gwers?
Ddim yn sicr sut i ateb cwestiwn mewn arholiad?
Gofynnwch i A*Seren drwy ddefnyddio'r
ddolen ar y dde. Rydym yn ymgeisio i ateb pob
ymholiad o fewn 72 awr!
Cathays
Caerdydd
CF24 4DJ
02920 196 798
Ymholiadau
helo@a-seren.com
Swyddi
gwaith@a-seren.com
Dewisiwch Rhanbarth ar y ddolen ar y dde,
a mi fydd rhestr o'n tiwtoriaid yn eich ardal chi yn
ymddangos.
Os hoffech gofrestru eich gwasanaeth efo ni,
(e.e. Tiwtora, Clwb Drama a.y.y.b) cysylltwch a ni ar
tiwtor@a-seren.com
You are viewing the text version of this site.
To view the full version please install the Adobe Flash Player and ensure your web browser has JavaScript enabled.
Need help? check the requirements page.